Enghraifft o'r canlynol | ideoleg wleidyddol |
---|---|
Math | revisionism, comiwnyddiaeth |
Ffurf ar gomiwnyddiaeth yw Ewrocomiwnyddiaeth[1] a oedd yn boblogaidd ymhlith pleidiau comiwnyddol Ewrop yn niwedd y Rhyfel Oer. Diffinnir gan annibyniaeth oddi ar athrawiaeth Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd, yr hyn a elwir Marcsiaeth–Leniniaeth. Er iddi fodoli ond am gyfnod byr fel ysgol feddwl Farcsaidd gydlynol,[2] cafodd yr agwedd gyffredin o annibyniaeth ar lywodraeth yr Undeb Sofietaidd ddylanwad trawsnewidiol ar y mudiad comiwnyddol yn Ewrop.
Datblygodd dueddiadau annibynnol, ac yn aml gwrth-Sofietaidd, ym mudiad adain-chwith Ewrop yn y 1930au. Yn ystod y ddeng mlynedd cyn yr Ail Ryfel Byd, lledaenodd ffryntiau poblogaidd ar draws Ewrop, gan gynnwys y Front populaire yn Ffrainc, gan arddel polisïau sosialaidd oedd yn wahanol i'r rhaglen Sofietaidd. Wedi'r rhyfel, anogwyd rhagor o wyro oddi ar arweiniad yr Undeb Sofietaidd gan lywodraeth Josip Broz Tito yn Iwgoslafia. O ganlyniad i droseddau Joseff Stalin a'i griw, ac ymyriadau gorthrymus gan luoedd Sofietaidd mewn gwledydd eraill y Bloc Dwyreiniol, yn enwedig yr ymatebion i Chwyldro Hwngari (1956) a Gwanwyn Prâg (1968), trodd nifer o gomiwnyddion Gorllewin Ewrop eu cefnau ar y Cremlin.
Bathwyd yr enw Ewrocomiwnyddiaeth yng nghanol y 1970au, a daeth yn boblogaidd yn sgil cyhoeddi'r llyfr Eurocomunismo y Estado (1977) gan Santiago Carrillo, arweinydd Plaid Gomiwnyddol Sbaen. Datblygodd mudiad real o gomiwnyddion yng Ngorllewin Ewrop oedd yn gwrthod ddarostwng i arweinyddiaeth yr athrawiaeth Sofietaidd a'r syniad o gomiwnyddiaeth fyd unffurf a arddelid gan y Cremlin. Dadleuasant dros lunio polisïau pob plaid gomiwnyddol genedlaethol yn unigol ar sail traddodiadau ac anghenion y bobl yn y wlad berthnasol. Mewn ambell gwlad, hyrwyddwyd Ewrocomiwnyddiaeth ar yr un pryd i'r mudiad comiwnyddol ddirywio. Er enghraifft, gostyngodd cefnogaeth Plaid Gomiwnyddol Ffrainc yn sylweddol yn niwedd y 1970au, er i'r arweinydd Georges Marchais ymhel â syniadau Ewrocomiwnyddiaeth.[3] Nodweddid mudiad deallusol Ewrocomiwnyddiaeth gan feirniadaeth o fodelau'r Undeb Sofietaidd, bydolwg luosogaethol ar Farcsiaeth, hawliau dynol a sifil, a'r broses seneddol.[2] Yn achos Plaid Gomiwnyddol yr Eidal, ymdebygodd polisïau ac hynt yr Ewrocomiwnyddion at y mudiad llafur a democratiaeth gymdeithasol.
Yn niwedd y 1980au, dechreuodd arweinydd yr Undeb Sofietaidd ei hun, Mikhail Gorbachev, annog pleidiau comiwnyddol y byd i ddatblygu'n annibynnol ar y blaid Sofietaidd. Yn sgil cwymp yr Undeb Sofietaidd ar ddechrau'r 1990au, diflannodd yr angen i wahaniaethu rhwng yr ideoleg Sofietaidd ac athrawiaethau pleidiau comiwnyddol eraill. Mabwysiadwyd agweddau democrataidd gan bleidiau comiwnyddol Dwyrain Ewrop, ac erbyn yr 21g yr hyn a elwid gynt yn Ewrocomiwnyddiaeth oedd y ffurf gyffredin ar gomiwnyddiaeth ar draws Ewrop.[3]